Cartref Cerdd

Cymorth > Sut i Gofrestru

Sut mae gweld Cynnwys Cartref Cerdd?

Ar y dudalen hon, ceir cymorth am sut i gael mynediad at gynnwys Cartref Cerdd, gydag eglurhad manwl gam-wrth-gam am sut i ddefnyddio’ch manylion personol i gael mynediad i’r wefan.

Cam 1: Hidlo drwy’r holl adnoddau

Dewiswch pa raglen o adnoddau y carech ei dilyn. Gwelir yr holl adnoddau ar y dudalen Adnoddau, a gellir eu hidlo fesul Offeryn, neu’r Cyfnod Allweddol perthnasol.

Cam 2: Dewis adnodd penodol

Ar ôl hidlo i lawr at y pecyn adnoddau addas i chi, dewiswch ba wythnos i edrych arni. Dewiswch yr adnodd y carech fynediad ato trwy glicio ar ei Deitl, neu Lun Pennawd.

Cam 3: Canfod manylion eich cyfrif

Er y cewch bori trwy’r holl adnoddau, bydd angen i chi fewngofnodi gyda manylion eich cyfrif er mwyn gwylio unrhyw fideo. Os nad ydych wedi derbyn enw defnyddiwr a/neu gyfrinair eisoes, cysylltwch trwy’r dudalen Cyswllt.

Cam 4: Mewngofnodi i weld fideo

Os nad ydych wedi mewngofnodi eisoes gyda’ch cyfrif, bydd neges i’w gweld ar bob fideo ar y safle. Cliciwch ar ‘Mewngofnodi’ i weld ffenestr mewngofnodi. Yma gallwch fewngofnodi gyda’r enw defnyddiwr a’r cyfrinair a dderbynioch. Hefyd, cynghorir chi i ddewis ‘Cadw’r mewngofnodi’ fel bo mynediad i adnoddau’r wefan yn gyflymach yn y dyfodol.

Cam 5: Defnyddio’r peiriant fideo

Cynlluniwyd y peiriant fideo i weithio ar y rhan fwyaf o ddyfeisiadau poblogaidd a phorwyr y we; bydd yn galluogi llif cyson y chwarae hyd yn oed lle bo cysylltiad rhyngrwyd yn wan. Ceir nifer o declynnau gosod at eich defnydd yn y peiriant fideo er mwyn hwyluso mynediad i’r adnoddau. Gallwch wneud i’r fideo fod o faint y sgrîn trwy glicio ar y botwm ⤢. Gallwch hefyd ddefnyddio penawdau os bydd eu hangen, trwy glicio ar y botwm [CC].

Mewn partneriaeth â’r sefydliadau canlynol

www.denbighshiremusic.com
www.northwalesmusic.cymru
www.wrexhammusic.com
www.theaims.co.uk
Cartref Cerdd
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.