Cartref Cerdd
Cymorth > Trafferth yn llwytho AdnoddauCael trafferth yn llwytho adnoddau Cartref Cerdd?
Ar y dudalen hon, ceir cymorth sut i oresgyn problemau cyffredin mynediad / llwytho adnoddau a fideo Cartref Cerdd.
Dull 1: Defnyddio tab pori preifat
Gall cwcis o wefannau eraill amharu ar sut y gallwch gofrestru am adnoddau Cartref Cerdd. Pe digwydd hynny, ceisiwch fynediad i’r wefan trwy tab Pori Preifat:
Yn Internet Explorer 11
Yn Internet Explorer 11, ewch i Gosodiadau > Diogelwch > Pori Preifat
Neu, gallwch wneud hyn trwy ddal Ctrl + Shift + P
Yn Microsoft Edge
Yn Microsoft Edge, ewch i Gosodiadau > Ffenestr Newydd Preifat
Neu, gallwch wneud hyn trwy ddal Ctrl + Shift + P
Yn Google Chrome
Yn Google Chrome, ewch i Gosodiadau > Ffenestr Newydd incognito
Neu, gallwch wneud hyn trwy ddal Ctrl + Shift + N
Dull 2: Defnyddiwch borwr gwe gwahanol
Os ydych yn ansicr sut i ganfod tab pori preifat, neu’n credu nad yw eich porwr gwe yn gydnaws â chwaraewr fideo’r wefan – gallwch ddefnyddio porwr gwe gwahanol. Mae adnoddau’r wefan hon yn gydnaws â fersiynau cyfredol y porwyr gwe canlynol:







